Derbyniadau i’r Ysgol
Cyngor Sir Gaerfyrddin sy’n penderfynu pa ddisgyblion a caiff eu derbyn i’r ysgol, a hynny ar sail ceisiadau ffurfiol gan y rhieni/gwarcheidwaid. Ond yn aml bydd y rhieni/gwarchedwaid yn cysylltu’n uniongyrchol â’r ysgol yn y lle cyntaf. Mae modd trefnu cyfarfod â’r Pennaeth a chael taith o gwmpas yr ysgol. Ar ôl hyn, mae’r ysgol yn cynghori’r rhieni i gysylltu â thîm yr Awdurdod Lleol. Bydd y cais yn cael ei brosesu ac yna fydd yr Awdurdod Lleol yn naill ai cynnig lle neu wrthod lle o fewn yr ysgol.