Grant Datblygu Disgyblion

Dyrennir y Grant Amddifadedd Disgyblion i ysgolion â disgyblion sy’n dod o deuluoedd incwm isel ac y gwyddys eu bod ar hyn o bryd yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim (e-FSM) a disgyblion sydd wedi derbyn gofal yn barhaus am fwy na chwe mis (LAC). 

Disgwylir i ysgolion ddefnyddio’r cyllid hwn i’r eithaf i gyflwyno strategaethau cynaliadwy fydd yn arwain yn gyflym at newidiadau i ddysgwyr sy’n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim neu sy’n LAC. 

Fel ysgol rydym wedi cytuno ar y tri cham a ganlyn: 

1.  nodi’r grŵp targed o ddisgyblion, ei nodweddion a’i anghenion 

2.  cynllunio ymyraethau sy’n gwneud y defnydd mwyaf effeithiol o adnoddau 

3.  monitro a gwerthuso effaith adnoddau 

Yn 2021-22 rhoddwyd i Ysgol Penboyr ddyraniad Grant Amddifadedd disgyblion o £1,150.

Yn Ysgol Hafodwenog mae gennym gynllun cynhwysfawr, sydd wedi’i gytuno a’i fonitro gan Awdurdod Lleol Sir Gaerfyrddin ac ERW, i hyrwyddo cynnydd a chael gwared ar rwystrau i ddysgu i fyfyrwyr sy’n gymwys ar gyfer y cyllid hwn. 

Rydym wedi defnyddio’r cyllid sydd ar gael i: 

·   ddarparu rhaglenni ymyrraeth a chymorth y profwyd eu bod yn cael yr effaith fwyaf a’u bod yn gynaliadwy.