Beth yw’r Siarter Iaith?
Yn dilyn ymgais y Llywodraeth i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 a chynyddu nifer yr unigolion sy’n defnyddio’r iaith yn ddyddiol, mae mwy o bwyslais nag erioed ar weld ein hysgolion yn cynhyrchu siaradwyr dwyieithog hyderus.
Nod y Siarter Iaith yw annog plant i siarad Cymraeg yn amlach mewn sefyllfaoedd cymdeithasol. Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am arwain y Siarter; ‘Mewn gair, ysbrydoli ein plant a’n pobl ifanc i ddefnyddio’u Cymraeg ym mhob agwedd o’u bywydau’ yw’r nod.
Mae’r Siarter Iaith yn gyfle i bawb yng nghymuned yr ysgol chwarae eu rhan wrth hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg –y disgyblion, y gweithlu, rhieni, llywodraethwyr a’r gymuned ehangach er mwyn sicrhau perchnogaeth lawn o’r iaith.
Rydym ni yn Hafodwenog wedi ymrwymo’n llwyr i nodau’r siarter iaith ac yn ymroddedig at sefydlu ymdeimlad cryf o falchder yn niwylliant Cymreig a chymreictod ein disgyblion a’n teuluoedd.
Beth yw manteision y Siarter Iaith?
Rydych chi eisoes wedi dewis addysg Gymraeg i’ch plentyn ac yn deall manteision medru siarad dwy iaith. Dyma rai o’r manteision
Manteision dwyieithrwydd: