The School

Ysgol ardal yw Ysgol Hafodwenog, agorwyd yn 1972 ar gyfer plant ardaloedd Alma, Bryn Iwan, Cilrhedyn, Dinas, Gelliwen, Pandy, Penybont, Talog and Trelech.

Cynlluniwyd adeiladau’r ysgol yn bedair uned sy’n cylchynu’r neuadd. Ceir dwy uned sy’n cynnwys ystafelloedd dosbarth; Y Cyfnod Sylfaen a’r Adran Iau. Yn ogystal a’r rhain mae ardal y staff ac uned y gegin lle mae’r gogyddes yn paratoi a choginio’r bwyd ar safle’r ysgol.

Cymraeg yw iaith yr ysgol ac yn y Cyfnod Sylfaen [oed 3-7oed] dim ond trwy’r Gymraeg mae’r plant yn derbyn eu haddysg. Mae Saesneg yn cael ei gyflwyno yng Nghyfnod Allweddol 2 [7-11 oed].

Er mwyn cwrdd a gofynion polisi dwyieithog yr Awdurdod Addysg mae gan yr ysgol adnoddau addysgu o safon uchel er mwyn sicrhau bod plant yn medru trin a thrafod yn rhugl a gydag hyder ar lafar ac yn ysgrifenedig yn y Gymraeg a’r Saesneg erbyn diwedd blwyddyn 6.

Derbynnir plant i’r ysgol ar ddechrau’r tymor cyn iddynt gyrraedd 4 oed a derbyniant addysg lawn amser o’r cychwyn.