Darperir addysg i blant 3 – 7 mlwydd oed yn nosbarth Rhos Fach. Addysgir y dosbarth hwn gan Mrs Eleri Dufty a gyda chymorth Mrs Wendy Thomas,Mrs Helen Bowen a Mrs Emily Morgans-Hicks
Yr iaith Gymraeg
Mae Rhos Fach yn gweithredu drwy’r cyfrwng Cymraeg. Rydym yn cefnogi ac yn annog i bob plentyn i fabwysiadu a ddefnyddio’r iaith yn ystod eu hamser gyda ni. Ein cred yw dylai bob plentyn cael y fantais o ddefnyddio dwy iaith yn rhugl, am fod yr iaith Gymraeg ynghyd â’r Saesneg yr un mor hanfodol yng Nghymru erbyn heddiw. Heb os, bydd y gallu fydd gyda’ch plentyn o ddefnyddio’r ddwy iaith yn y dyfodol, yn fantais enfawr iddynt.
Dysgu yn yr awyr agored
Mae dysgu allan yn yr awyr agored yn fanteisiol am amrywiol resymau:
- Mae’n gyffrous ac yn ysgogi dysgu plant.
- Mae’r tu allan yn golygu defnyddio’u 5 synnwyr.
- Mae’n hyrwyddo annibyniaeth.
- Mae’n datblygu chwilfrydedd naturiol i archwilio, ac empathi tuag at ein hamgylchedd naturiol
- Ceir effaith cadarnhaol ar les a datblygiad plant yn gyfan gwbl; yn gymdeithasol, yn gorfforol, yn wybyddol, yn ddiwylliannol ac yn bersonol.
Rhoddir bwyslais ar ddatblygu sgiliau plant i siarad a gwrando. Bydd hynny’n sylfaen gadarn ar gyfer datblygu darllen ac ysgrifennu.
Iaith, Llythrennedd a chyfathrebu
Mae llawer o blant ifanc yn cychwyn ym myd addysg yn methu siarad am eu teimladau a’u profiadau. Nid yw’r plant hyn yn teimlo awydd i ddarllen ac ysgrifennu ac nid ydynt yn gweld gwerth y gweithgareddau hyn. Mae plant sy’n medru rhannu eu teimladau a siarad am eu profiadau yn fwy awyddus o lawer i gofnodi eu teimladau ac i ddarllen beth y mae pobl eraill wedi’i ysgrifennu. Felly, mae’n bwysig bod plant yn dysgu siarad am eu teimladau a gwrando ar eraill fel y byddant yn awyddus i ddatblygu sgiliau darllen ac ysgrifennu.
Os oes gan blant sgiliau siarad a gwrando da pan fyddant yn cychwyn ym myd addysg, bydd y staff yn eu hybu i symud ymlaen. Yr hyn sy’n bwysig yw bod plant yn cael profiadau sy’n ymateb i’w hanghenion ac yn eu helpu i ddysgu’n llwyddiannus.
Llais y plentyn
Cynllunio ar y cyd
Mae diddordebau’r plant yn cael eu hystyried wrth gynllunio gweithgareddau’r dosbarth – rydym yn cynnal sesiwn gynllunio’n gyson gyda’r plant, ac yn cofnodi eu cwestiynau, syniadau a’u sylwadau ar thema y byddwn yn ei hastudio.